Lewis BrynmorJONES20 Mai, 2025. Yn dawel yng nghwmni ei deulu, yn dilyn cystudd hir, ac o 34 Cae Berllan, Caernarfon, yn 84 mlwydd oed.
Priod cariadus a chyfeillgar Eifiona, tad annwyl Manon a Dylan, llys-dad Alwen, Aled, Ann a'u partneriaid, a thaid rhagorol ei holl wyrion a wyresau a'i or-wyres fach. Brawd ffyddlon Jane a'r diweddar Margaret, a bydd yn golled fawr i'w deulu a'i ffrindiau oll.
Angladd fore Gwener, 6 Mehefin, 2025. Gwasanaeth cyhoeddus yng Nghapel Seilo, Caernarfon, am 11.00 o'r gloch, gan ddilyn ar lan y bedd ym Mynwent Carmel.
Blodau'r teulu'n unig, ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Bryn tuag at Meddygfa Waunfawr a Ward Hebog, Ysbyty Gwynedd ble cafodd ofal arbennig.
Ymholiadau i Roberts & Owen, 15 Stryd Bangor, Caernarfon. LL55 1AT. 01286 678658.
Keep me informed of updates